Amdanon ni



Dinah Jones

Sefydlodd Dinah Silin yn 2013 ar ôl ugain mlynedd yn gweithio gyda’r BBC.

Enillodd Wobr Gwyn Alf Williams, un o wobrau arbennig BAFTA Cymru, ac hefyd wobr am y Rhaglen Faterion Cyfoes Orau yng Yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd.

Mae hi wedi dyfeisio a chynhyrchu cyfresi dogfen hanesyddol cymhleth ar gyfer y Teledu a Radio. Mae’r rhain yn cynnwys ‘Teledu’r Cymry’ am hanes teledu Cymraeg, portread o Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, a chyfres 19-rhan i BBC Radio Cymru am Gymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae ei gwaith wedi amrywio ar draws rhaglenni dogfen hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, materion cyfoes a , a rhaglenni arsylwadol.



Mae’r cwmni’n cyflogi cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a chriwiau dawnus sydd ymhlith y goreuon yn eu maes.