Teledu

Beti and David: Lost for Words

BBC One Network & BBC Wales

‘Mae angen chwyldro mewn gofal dementia’, meddai Beti George, fu’n gofalu am ei diweddar bartner, David Parry-Jones. Ffilmiwyd y rhaglen dros nifer o fisoedd, ac mae na chwerthin a dagrau yn y ffilm deimladwy, onest a chignoeth hon. Mae’n ddarlun trawiadol o ddau berson yn wynebu salwch ofnadwy gyda’i gilydd.

‘…a moving portrait of love, loss and kindness. The more people that watch this profound film on the iPlayer the better.’ – The Daily Telegraph

Mwy am hyn…

Annie’s War: A Welsh Nurse on the Western Front

BBC Wales

Hanes nyrs Gymreig a dreuliodd y rhan fwyaf o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar flaen y gad yn gweithio gyda Byddin Ffrainc.

Cafodd Annie Brewer un o’r anrhydeddau uchaf a roddir i sifiliaid gan Lywodraeth Ffrainc. Bu bron iddi farw un diwrnod pan fomiwyd yr ysbyty lle roedd hi’n gweithio. Lladdwyd tair o’i chydweithwyr. Eto, ychydig iawn sy’n gwybod amdani.

Mae ei gor-nai, Ian Brewer, wedi ei swyno gan ei stori ers dros 50 mlynedd. Nawr mae’n benderfynol o ddarganfod mwy am ei bywyd a’i gyrfa, ac am y gred deuluol iddi briodi yng nghanol y brwydro. Mae Ian yn benderfynol o gadw’i stori’n fyw ac mae’n teithio i Ffrainc i ddilyn ôl traed y nyrs ryfeddol hon.

Mwy am hyn…

Connie Fisher on Make-Up

BBC One Wales

Dyw Connie Fisher ddim yn hapus i fynd allan o’r tŷ heb golur. Iddi hi a llawer o ferched mae coluro yn rhan o’u hamserlen ddyddiol.
Mae Connie’n gofyn pam mae hi’n gwneud hyn? Ac i bwy? Ai er mwyn dod o hyd i gymar? Neu oherwydd ansicrwydd? Neu ydy e’ oherwydd pwysau gan gymdeithas?

Roedd ‘Connie Fisher on Make-up’ yn rhan o gyfres o raglenni ar BBC One Wales am ein perthynas â’n cyrff.

Mwy am hyn…

Rhodri Morgan: Ysbïwr yn y Teulu

S4C

Stori ysbïo am fab i löwr o Gwm Tawe fu’n rhannu cyfrinachau gwleidyddol gyda Lenin mewn siop farbwr yn Zurich yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y misoedd cyn ei farwolaeth, bu cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn ymchwilio i wasanaeth dirgel ei hen ewythr, Morgan Watkin.

Rhaglen ‘…drawiadol a chofiadwy…’, (Sioned Williams, adolygydd, Barn, Mai 2018)

‘…an intriguing documentary…’ (Tony Allen Mills, ‘Uncovering the murky tale of Lenin and Rhodri Morgan’s family’, The Sunday Times, Mawrth 25, 2018)

Mwy am hyn…

Beti George: Colli David

S4C

Mae ‘Beti George: Colli David’ yn dilyn y newyddiadurwr wrth iddi ddod i delerau â bywyd heb ei phartner, David Parry-Jones, a fu farw ym mis Ebrill 2017. Roedd Beti wedi gofalu am David am 8 mlynedd ar ôl iddo gael diagnosis o Glefyd Alzheimer.

Mae’n benderfynol o barhau i ymgyrchu am well gofal dementia, gan roi llais i’r miloedd o deuluoedd, sy’n gorfod ymdopi, heb fawr ddim cefnogaeth, ar eu pen eu hunain.

Mae’r rhaglen yn dangos ei galar personol a’i brwydr gyhoeddus i ysgafnhau baich gofalwyr.

Mwy am hyn…

T Llew Jones

S4C

T Llew Jones oedd ‘tad’ llenyddiaeth plant yng Nghymru. Ar ganmlwyddiant ei enedigaeth mae’r rhaglen ddogfen gynnil hon yn dathlu ei athrylith ac yn datgelu cyfrinach syfrdanol.

Mae dau fab y llenor yn darganfod bod ganddynt chwaer a dyfodd lan ddim yn nabod ei thad enwog.

Mae’r tri yn rhannu y stori drawiadol o ddod i adnabod ei gilydd, gan roi tristwch a chulni’r gorffennol y tu ôl iddyn nhw.

“…cynnil.. sensitif ac annwyl…” (Dylan Wyn Williams, adolygydd, Golwg 15.10.2015)

“…Rhaid canmol ymdriniaeth urddasol y rhaglen o’r dadleniad syfrdanol bod Eira Prosser yn ferch i T Llew Jones… yr hyn gafwyd oedd archwiliad trylwyr a theg… …trafodaeth ddeallus ac aeddfed ar un eiconau’r genedl…” (Sioned Williams, adolygydd, Barn, Nov. 2015)

Mwy am hyn…

Caradoc Evans: Ffrae ‘My People’

S4C

Caradoc Evans oedd ‘bachgen drwg’ llenyddiaeth Cymru. Pan gyhoeddodd ‘My People: Stories of the Peasantry of West Wales’ 100 mlynedd yn ôl, tynnodd nyth cacwn ar ei ben.

Roedd ei straeon grotésg yn pardduo y gymdeithas gapelyddol Gymraeg ei hiaith lle cafodd ei fagu.

Condemniwyd y gwaith fel ‘the literature of the sewer’.

“Dogfen hynod ddifyr, dadlennol a deallus am bwnc ac awdur hollol ddiarth i mi a ddisgrifiwyd fel James Joyce Cymru…” Dylan Wyn Williams, adolygydd, Golwg 23.4.2015)

Mwy am hyn…