Rhodri Morgan: Ysbïwr yn y Teulu


S4C

Stori ysbïo am fab i löwr o Gwm Tawe fu’n rhannu cyfrinachau gwleidyddol gyda Lenin mewn siop farbwr yn Zurich yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y misoedd cyn ei farwolaeth, bu cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn ymchwilio i wasanaeth dirgel ei hen ewythr, Morgan Watkin.

Erbyn i Rhodri ddod i’w adnabod, roedd Morgan Watkin yn un hoelion wyth y gymdeithas yng Nghymru. Ond y tu ôl i wyneb parchus yr ysgolhaig roedd na gyfrinach yn llechu: cafodd Morgan ei recriwtio i ysbïo gan David Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog Prydain yn 1916, i chwarae rhan allweddol yn Y Rhyfel Mawr.

Rhodri Morgan yn argae Cwm Elan, lle bu Morgan Watkin yn gweithio fel saer maen. Dyma lle ddechreuodd Morgan freuddwydio am gael bod yn ysgolhaig.

Roedd Rhodri Morgan yn cofio Morgan Watkin yn iawn ac roedd am ddeall sut y daeth bachgen a adawodd yr ysgol yn ifanc i weithio o dan ddaear yng Nghwm Tawe, ac yna fel saer maen, yn ffigwr academaidd blaenllaw.

A sut y daeth i rannu cyfrinachau mewn siop farbwr mewn stryd gefn yn Zurich gyda Lenin, un o benseiri Chwyldro Rwsia?

Rhodri gyda’i gyfnither, yr hanesydd Nia Powell, yn y Café Odeon yn Zurich.

Aeth Rhodri i’r Swistir lle ddaeth o hyd i dystiolaeth am waith ysbïo ei hen ewythr.

Roedd hi’n daith emosiynol i Rhodri. Wrth ddilyn yn ôl troed ei hen ewythr, Morgan Watkin, yn Zurich, dysgodd lawer am un o’i ddiddordebau pennaf – hanes cythryblus gwleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif – a llawer mwy am hanes rhyfeddol ei deulu ei hun.

Dyma fan cyfarfod i ysbïwyr o bob gwlad yn ystod y rhyfel. Roedd Lenin yn gwsmer rheolaidd yma yn ystod ei amser yn alltud yn y Swistir.


Rhaglen ‘…drawiadol a chofiadwy…’, (Sioned Williams, adolygydd, Barn, Mai 2018)

‘…an intriguing documentary…’ (Tony Allen Mills, ‘Uncovering the murky tale of Lenin and Rhodri Morgan’s family’, The Sunday Times, Mawrth 25, 2018)