Annie’s War: A Welsh Nurse on the Western Front


BBC Wales

Hanes nyrs Gymreig a dreuliodd y rhan fwyaf o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar flaen y gad yn gweithio gyda Byddin Ffrainc.

Cafodd Annie Brewer un o’r anrhydeddau uchaf a roddir i sifiliaid gan Lywodraeth Ffrainc. Bu bron iddi farw un diwrnod pan fomiwyd yr ysbyty lle roedd hi’n gweithio. Lladdwyd tair o’i chydweithwyr. Eto, ychydig iawn sy’n gwybod amdani.

Mae ei gor-nai, Ian Brewer, wedi ei swyno gan ei stori ers dros 50 mlynedd. Nawr mae’n benderfynol o ddarganfod mwy am ei bywyd a’i gyrfa, ac am y gred deuluol iddi briodi yng nghanol y brwydro. Mae Ian yn benderfynol o gadw’i stori’n fyw ac mae’n teithio i Ffrainc i ddilyn ôl traed y nyrs ryfeddol hon.

Gweler tudalen y rhaglen


Yr hanesydd Marie Cappart, fu’n helpu Ian Brewer ddarganfod mwy am hanes ei hen fodryb, Annie Brewer, yn tendio milwyr Ffrainc yn Verdun yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.