Beti George: Colli David


S4C

Mae ‘Beti George: Colli David’ yn dilyn y newyddiadurwr wrth iddi ddod i delerau â bywyd heb ei phartner, David Parry-Jones, a fu farw ym mis Ebrill 2017. Roedd Beti wedi gofalu am David am 8 mlynedd ar ôl iddo gael diagnosis o Glefyd Alzheimer.

Mae’n benderfynol o barhau i ymgyrchu am well gofal dementia, gan roi llais i’r miloedd o deuluoedd, sy’n gorfod ymdopi, heb fawr ddim cefnogaeth, ar eu pen eu hunain.

Mae’r rhaglen yn dangos ei galar personol a’i brwydr gyhoeddus i ysgafnhau baich gofalwyr.

Gweler tudalen y rhaglen


Mae Beti wedi ei henwebu am Wobr BAFTA Cymru, 2018, am ei gwaith ar y rhaglen hon.