Gwobr Efydd yng Ngwobrau Radio Rhyngwladol Gwyliau Efrog Newydd

Mae Silin yn ennill Gwobr Efydd am ‘Aberfan: A Survivor’s Journey’ yng Ngwobrau Radio Rhyngwladol Gwyliau Efrog Newydd. Darlledwyd y rhaglen ar BBC Radio Wales ym mis Hydref 2016 i goffáu trychineb Aberfan.

Roedd y rhaglen yn dilyn Gaynor Madgwick gollodd frawd a chwaer ar y diwrnod pan newidiodd ei chymuned am byth. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Greg Lewis.

Mewn cystadleuaeth o dros 30 o wledydd, bwriad Gwobrau Radio’r NYF yw dathlu rhaglenni gorau’r byd.