Wales & the Great War Today


BBC Radio Wales

“…telescoped the human grief, fears and passions of the war years into a contemporary experience”


Yn y gyfres yma mae chwech o bobl sydd â chysylltiadau â rhyfeloedd diweddar yn ymchwilio i arswyd, galar a dewrder y rhai a brofodd y Rhyfel Byd Cyntaf gan mlynedd yn ôl.

Bu farw William Pritchard ym Mrwydr Cambrai ym mis Tachwedd 1917. Fis yn ddiweddarach, ganwyd ei unig blentyn. Bu’r mab na welodd ei dad erioed, yn trafod galar a cholled gyda menyw a gollodd ei phartner yn Affganistan.

∗  ∗  ∗

Mae cyn-filwr o’r rhyfel diweddar yn Irac yn cymharu ei amser mewn lifrai â bywydau’r milwyr yn ystod y Rhyfel Mawr.

∗  ∗  ∗

Roedd Annie Brewer yn Ffrainc ym mis Awst 1914pan ddechreuodd Y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymunodd â’r Groes Goch a bu’n nyrsio milwyr wedi eu clwyfo drwy gydol y rhyfel. Clywn ei hanes gan nyrs sydd wedi gwasanaethu yn ddiweddar gyda’r fyddin yn Bosnia, Irac ac Affganistan.

∗  ∗  ∗

Cyn-Archesgob Cymru, Barry Morgan, sy’n edrych ar waith yr eglwys yn cefnogi a gwrthwynebu rhyfel.

∗  ∗  ∗

Mae heddychwraig fu’n ymgyrchu yn erbyn y rhyfel diweddar yn Irac yn darganfod hanes y rhai a wrthwynebodd y Rhyfel Mawr.

∗  ∗  ∗

Mae hanesydd sydd wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio i greu cofeb ryfel newydd ar gyfer ei dref enedigol, yn ystyried sut rydym yn cofio’r Rhyfel Mawr.